Ffrwydriad yn Damascus (Llun: PA)
Mae cyfryngau’r wladwriaeth yn Syria wedi rhoi’r bai ar Israel am saethu taflegryn at ganolfan filwrol ger maes awyr Damascus gan achosi ffrwydriad a siglodd y brifddinas ben bore Iau.

Mae gweinidogion yn llywodraeth Israel wedi gwrthod gwneud sylw am y digwyddiad, ond maen nhw wedi dweud y byddai ymosodiad o’r math yn cyd-fynd â’u polisi i ymyrryd yn y modd y mae arfau’n cael eu symud o Iran i Syria gan grwp milwriaethus fel Hezbollah.

Mae Israel yn cael y bai am gynnal nifer o ymosodiadau o’r awyr ar Syria yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan dargedu milwyr o Rwsia a safleoedd sy’n gysylltiedig â Hezbollah.

Heddiw, fe gyhoeddodd yr asiantaeth newyddion SANA fod Israel wedi tanio’r taflegrau diweddaraf hyn o gyffiniau Golan, gan daro safle milwrol i’r de-orllewin o faes awyr rhyngwladol Damascus.

Fe gafodd nifer o ffrwydriadau eu clywed ben bore yn ninas Damascus, fe gafodd adeiladau eu difrodi, ond chafodd neb ei anafu.