Mae milwr o’r Almaen wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gymryd arno fod yn ffoadur ac o gynllwynio ymosodiad y byddai tramorwyr yn cael eu beio o’i drefnu.

Mae erlynwyr yn ninas Frankfurt wedi cadarnhau fod dyn 28 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio gweithred dreisgar.

Fe gyheoddodd papur newydd Bild fod y milwr a oedd yn gweithio yn Ffrainc wedi cuddio gwn yn un o doiledau maes awyr Fienna, a bod yr awdurdodau wedi dod o hyd i’r arf. Yn ol adroddiadau, fe gafodd y milwr ei arestio tra’n ceisio mynd i nôl y gwn.

Mae myfyriwr 24 oed o Offenbach, yr un dref â’r milwr, hefyd wedi’i arestio. Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio 16 o adeiladau yn yr Almaen, Awstria a Ffrainc mewn cysylltiad â’r ymchwilad.