Sefyllfa Libya wedi dirywio ers disodli Muammar Gaddafi yn 2011
Mae Libya yn gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am gychod a hofrenyddion i’w helpu i batrolio’r Mor Canoldir am fadau sy’n cario ffoaduriaid.
Mae llywodraeth yr Almaen yn dweud fod y rhestr o geisiadau gan wylwyr y glannau Libya hefyd yn cynnwys ambiwlansys, offer cyfathrebu, ac offer gweld yn y tywyllwch.
Mae’r cais yn cael ei hystyried ar hyn o bryd gan bwyllgor gwaith yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Undeb yn awyddus i leihau’r nifer o fewnfudwyr sy’n croesi i Ewrop o ogledd Affrica. Mae’r sefyllfa yn Libya wedi dirywio ers i’r cyn-arlywydd, Muammar Gaddafi, gael ei ddisodli a’i ladd yn 2011.