ae arlywydd yr Unol Daleithiau yn mynnu y bydd yn anrhydeddu ei addewid i godi wal ar hyd y ffin rhwng America a Mecsico.

Fe fydd y wal wedi’i chwblhau erbyn diwedd ei dymor cynta’ yn y swydd, meddai Donald Trump. Ond mae wedi gwrthod dweud pwy fydd yn talu am y gwaith.

“Mi fydd y wal yn cael ei chodi,” meddai Donald Trump. “Mae’n mynd i gael effaith anferth ar yr arfer o brynu a gwerthu pobol, er enghraifft…

Mewn ymateb i’r cwestiwn, pryd fydd y gwaith yn dechrau, yr ateb oedd “yn fuan”, gydag awgrym y gallai hi gymryd hyd at fis Medi i roi cynllun ariannu mewn lle.