Marine Le Pen Llun: PA
Mae ymgeisydd arlywyddol asgell dde Ffrainc, Marine Le Pen, wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i arwain ei phlaid Front National dros dro.
Mae’n debyg bod ei phenderfyniad yn ymgais i apelio at ystod fwy eang o bleidleiswyr posib cyn 7 Mai pan fydd yn wynebu ei gwrthwynebydd yn y ras am yr arlywyddiaeth Emmanuel Macron.
Daeth y canolbleidiwr i’r brig yn rownd gyntaf y ras ddydd Sul.
Dywedodd Marine Le Pen ar raglen deledu yn Ffrainc nad oedd hi bellach yn llywydd y Front National ond yn “ymgeisydd arlywyddol.”
Wrth iddi gyflwyno ei gweledigaeth ym mis Chwefror dywedodd mai ei mesurau hi oedden nhw, nid ei phlaid.