Llun: PA
Mae 16 o bobol wedi marw wedi i gwch yn cludo mudwyr suddo wrth geisio cyrraedd un o ynysoedd Gwlad Groeg o Dwrci.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod cyrff naw o bobol wedi’u canfod ger ynys Lesbos, Gwlad Groeg tra bod saith arall wedi’u canfod ym môr Twrci.

Yn eu plith roedd chwe dynes, wyth dyn a dau blentyn, ac fe gafodd dwy ddynes arall eu hachub a’u cludo i Lesbos.

Yn ôl gwylwyr y glannau roedd un o’r merched gafodd ei hachub yn feichiog, a dywedodd ei bod ymhlith 25 o bobol wnaeth geisio gadael arfordir Twrci nos Sul er mwyn cyrraedd Lesbos.