Francois Fillon - un o'r ceffylau blaen yn yr etholiad arlywyddol (Llun: PA)
Mae’r Ffrancwyr wedi dechrau pleidleisio i ddewis arlywydd newydd.

Eisoes, mae mwy na 60,000 o orsafoedd pleidleisio wedi agor eu drysau, wrth i 11 o ymgeiswyr gystadlu yn erbyn ei gilydd yn y rownd gyntaf.

Mae lle i gredu y gallai fod yn agos rhwng y pedwar ymgeisydd ar y brig, gyda pholau’n awgrymu mai Marine Le Pen, Emmanuel Macron, Francois Fillon a Jean-Luc Melenchon sydd ar y blaen ar y diwrnod cyntaf.

Ymhlith prif flaenoriaethau’r Ffrancwyr yn yr etholiad hwn fydd yr economi, diweithdra a diogelwch.

Mae 47 miliwn o bobol yn gymwys i bleidleisio.

Penelope Fillon

Yn groes i’r arfer, doedd Penelope Fillon, y Gymraes sy’n briod â Francois Fillon ddim wrth ei ochr wrth iddi bleidleisio.

Mae Penelope Fillon wedi’i chyhuddo o fod â rhan mewn sgandal swydd ffug, sydd wedi peryglu gobeithion Francois Fillon o ennill yr etholiad.

Yn hytrach na phleidleisio ym Mharis, bwrodd hi ei phleidlais yn Sarthe, ryw 155 o filltiroedd i ffwrdd lle mae’r cwpl yn byw.