Mae dros 130 o filwyr wedi cael eu lladd ac 80 wedi eu hanafu ar ôl i wŷr arfog yng gwisg y fyddin ymosod ar wersyll milwrol yn Afghanistan.

Yn ôl llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Amddiffyn y wlad, roedd dau o’r ymosodwyr yn hunan-fomwyr a chafodd wyth o’r lleill eu lladd mewn brwydr.

Roedd yr ymosodwyr wedi mynd i mewn i’r gwersyll a saethu rhai milwyr wrth iddyn nhw weddïo mewn mosg yno.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.