Ffrwydriad bws Borussia Dortmund (Llun: PA)
Mae dyn 28 oed wedi’i arestio dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am ymosodiad bom ar fws tîm pêl droed Almaenaidd, Borussia Dortmund.

Cafodd plismon ac un o chwaraewyr y tîm eu hanafu gan y ffrwydradau ddydd Mawrth, Ebrill 11.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i nodyn ger safle’r ymosodiad oedd yn awgrymu mai’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) oedd yn gyfrifol, ond erbyn hyn mae’r awdurdodau yn cwestiynu pa mor ddilys oedd y ‘dystiolaeth’ honno.

Mae erlynwyr ffederal yn yr Almaen wedi datgelu mai Sergej W yw enw’r dyn o dras Almaenaidd a Rwsiaidd sydd wedi’i ddwyn i’r ddalfa.

Maen nhw’n amau ei fod wedi ymosod ar y tim am resymau ariannol, gyda’r bwriad o leihau gwerth cyfranddaliadau y clwb pel-droed.