Mae China wedi gyrru ei llong ofod ddi-beilot gynta’ i’r gofod, gyda’r bwriad y bydd hi’n cynnal nifer o arbrofion wedi iddi lanio ar orsaf ofod Tiangong 2.

Fe gafodd Tianzhou 1 ei lawnsio heddiw (7.41yh amser lleol) o’r maes newydd sydd gan China yn Wenchang ar ynys Hainan.

Mae disgwyl i’r orsaf ofod fod yn barod i’w ddefnyddio’n llawn o 2022 ymlaen, ac y bydd yn para degawd.