Mae Ffrainc wedi addo y bydd yn cyflwyno tystiolaeth o fewn y dyddiau nesa’ i brofi mai’r arlywydd Bashar Assad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol yn Syria a laddodd beth bynnag 90 o bobol.

“Fe fyddwn ni’n darparu tystiolaeth mai’r gyfundrefn drefnodd yr ymosodiadau cemegol,” meddai’r Gweinidog Tramor, Jean-Marc Ayrault, gan ddweud na allai wneud hynny nawr oherwydd bod gwaith dadansoddi yn dal i fynd rhagddo.

“O fewn ychydig ddyddiau eto, fe fydda’ i’n gallu rhoi prawf i chi,” meddai wedyn.

Mae Bashar Assad, arlywydd Syria, wedi gwadu bod yn gyfrifol am yr ymosodiad, ac roedd Syria wedi cytuno i ildio ei stor o arfau cemegol yn 2013.

Mae Jean-Luc Melenchon, un o’r ymgeiswyr yn etholiad arlywyddol Ffrainc eleni, wedi galw ar y Cenhedloedd Unedig i gosbi’r rheiny oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Syria.