George Bush, arlywydd America rhwng 1989 a 1993
Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, George Bush, wedi treulio noson arall yn yr ysbyty, yn diodde’ o niwmonia.

Mae llefarydd ar ran y teulu wedi cadarnhau fod y gwleidydd 92 oed yn “dal i gryfhau” ac wedi cael noson dda o gwsg. Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Methodistaidd Houston ddydd Gwener diwetha’.

Yn ol y llefarydd, mae’r peswch a’r niwmonia wedi’u trin, ac mae George Bush yn gwella ac yn edrych ymlaen at gael mynd adref.

Fe dreuliodd 16 niwrnod yn yr ysbyty ym mis Ionawr eleni yn diodde’ o niwmonia.