Mae o leia’ 745 o bobol – a’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n blant – wedi’u lladd gan gyfres o achosion o lid yr ymennydd yn Nigeria.

Ond mae Canolfan Rheoli Afiechydon y wlad yn dweud fod cymaint ag 8,057 o achosion wedi’u cofnodi ers mis Rhagfyr, y rhan fwya’ ohonyn nhw yn nhaleithiau gogleddol Zamfara, Katsina, Kebbi, Niger a Sokoto.

Mae’r llywodraeth ffederal wedi dechrau ymgyrch i frechu miliynau o bobol, er bod yna brinder brechiadau hefyd.

Fe fu llid yr ymennydd yn gyfrifol am ladd mwy na 10,000 o bobol yn Nigeria a Niger, y wlad drws nesaf, yn 2015.