Mae o leiaf 44 o bobol wedi’u lladd ar ôl i fws ddisgyn oddi ar ffordd fynyddig ac i ganol ceunant yng ngogledd India.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn nhalaith Himachal Pradesh, yn ôl llywodraeth y wlad.

Glaniodd y bws mewn ceunant 200m o ddyfnder ar afon Tons.

Mae lle i gredu bod dau o bobol wedi goroesi’r gwrthdrawiad y bore yma.