Mae cwch oedd yn cludo grawn o dde Rwsia i Dwrci wedi suddo yn dilyn storm yn y Môr Du.

Cafodd un person ei achub, ond mae’r chwilio am 11 yn rhagor yn parhau yng nghulfor Kerch.

Mae’r tywydd garw’n gwneud y chwilio’n anodd ar hyn o bryd.

Mae lle i gredu mai naw o bobol o’r Wcráin, dau o Rwsia ac un o Georgia sydd ar goll, yn ôl asiantaeth newyddion yn Rwsia. Un o’r Wcráin sydd wedi cael ei achub.

Roedd y cwch yn cludo hyd at 30 tunnell o gynnyrch olew, ac mae pryderon erbyn hyn y gallai achosi niwed i’r amgylchedd ar ôl suddo.