Recep Tayyip Erdogan
Mae hawl gan bobol wrthwynebu canlyniad y refferendwm diweddar ar ymestyn pwerau Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, yn ôl y Prif Weinidog Binali Yildirim.

Ond dywedodd fod cynnal protestiadau ar strydoedd y wlad yn “annerbyniol”.

Dywedodd y byddai bwrdd etholiadol yn ystyried cais Plaid y Bobol Weriniaethol i ddiddymu canlyniad y refferendwm, sy’n gweld system lywodraethu Twrci’n troi o fod yn un seneddol i fod yn un arlywyddol.

Mae’r gwrthbleidiau wedi mynegi pryder am gyfres o anghysondebau, yn enwedig y penderfyniad gan y bwrdd etholiadol i dderbyn papurau pleidleisio oedd heb eu stampio’n swyddogol.

Dywedodd Binali Yildirim mai ceisiadau trwy’r system gyfiawnder yn unig ddylai gael eu derbyn.

Mae miloedd o bobol wedi bod yn protestio ar strydoedd Istanbul ac Ankara ers dydd Sul.

‘Cyfrifol’

Dywedodd Binali Yildirim: “Mae galw pobol i’r strydoedd yn anghywir ac y tu hwnt i ffiniau’r hyn sy’n ddilys.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i arweinydd yr wrthblaid “ymddwyn yn fwy cyfrifol”.

Mae canlyniad y refferendwm yn dangos bod 51.4% o bobol yn cefnogi cynlluniau’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Mae disgwyl i wrthwynebiadau i’r canlyniad gael eu hadolygu’n ddiweddarach heddiw.