Mae Seland Newydd yn cyflwyno rheolau llymach wrth benderfynu pa fewnfudwyr y bydd y wlad yn eu derbyn yn y dyfodol.

Mae nifer y bobol o dramor sy’n cael mynediad i’r wlad wedi cyrraedd ei lefel ucha’ erioed, ac fe ddaw’r cyhoeddiad hwn ddiwrnod yn unig wedi i Awstralia gyhoeddi ei bod am gael gwared â’r fisa dros-dro ar gyfer gweithwyr o dramor.

Mewn araith, mae Gweinidog Mewnfudo Seland Newydd, Michael Woodhouse, wedi dweud nad ydi’r llywodraeth yn ymddiheuro dim yn wyneb y trafferthion y mae cwmnïau’n eu cael i recriwtio gweithwyr o dramor.

“Rydan ni’n benderfynol ein bod ni’n rhoi’r Ciwis yn gynta’,” meddai Michael Woodhouse, gan ddefnyddio’r llysenw ar bobol ei wlad.

Mae’r rheolau newydd yn gosod rhicynnau cyflog. Er mwyn cael eu hystyried yn weithwyr â sgiliau, fe fydd yn rhaid i fewnfudwyr sicrhau swydd â chyflog cyfartalog. Er mwyn cael eu hystyried yn weithwyr sgiliau uchel, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ennill cyflog o beth bynnag 150% y cyflog cyfartalog.

Mae newidiadau eraill yn cynnwys cyfyngu arhosiad gweithwyr sgiliau is, i dair blynedd.