Mae awdurdodau Twrci wedi cadarnhau bod deuddeg o bobol wedi’u lladd wedi i hofrennydd ddisgyn yn ne ddwyrain y wlad.

Yn ôl adroddiadau, un o hofrenyddion yr heddlu oedd hi, ac mae’r deuddeg o bobol oedd arni wedi marw.

Does dim manylion llawn pam y disgynnodd yr hofrennydd, ond mae adroddiadau’n awgrymu y gallai tywydd gwael fod wedi cyfrannu at yr achos.