Mae heddlu wedi arestio dau ddyn dan amheuaeth o fod wedi ceisio cynllunio ymosodiad brawychol yn Ffrainc, wrth i’r wlad baratoi am etholiad arlywyddol.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg, dywedodd Gweinidog Mewnol Ffrainc bod y dynion wedi cael eu harestio yn ninas ddeheuol Marseille.

Bydd Ffrainc yn pleidleisio yn rownd gyntaf eu hetholiad ddydd Sul (Ebrill 23) ac yn sgil cyfres o ymosodiadau dros y blynyddoedd diwethaf mae mesurau diogelwch llym mewn grym.

Mae’r dynion sydd yn y ddalfa – un wedi ei eni yn 1987 a’r llall yn 1993 – dan amheuaeth o fod “wedi eisiau cynnal gweithred dreisgar” cyn yr etholiad.

Cafodd y dynion eu harestio gan swyddogion asiantaeth diogelwch Ffrainc ynghyd ag unedau o swyddogion heddlu elit.