Mae o leia’ 24 o bobol wedi’u lladd wedi i fws fynd ar ei ben i mewn i geunant mewn tre’ fynyddig yng ngogledd y Ffilipinas.

Mae’r ddamwain yn cael ei disgrifio fel un o’r rhai gwaetha’ yn y wlad ers blynyddoedd.

Fe gafodd 45 o bobol oedd yn teithio ar y bws eu tynnu o’r cerbyd yn ddiogel, wrth i achubwyr ddefnyddio rhaffau i fynd i lawr at y cerbyd ger tref Carranglan yn nhalaith Nueva Ecija.

Roedd y bws, o ogledd talaith Isabela, ar ei ffordd i ardal dyfu baco Ilocos Sur, pan ddigwyddodd y ddamwain toc cyn hanner dydd.