Mae o leia’ 13 o bobol wedi’u lladd gan gyrch awyr mewn tref yn nwyrain Syria, ger y ffin ag Irac.

Yn ol ffynonellau lleol, mae’n debygol iawn mai lluoedd cynghreiriaid America oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar Boukamal yn hwyr nos Lun y Pasg, a’u bod yn targedu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe gafodd 13 o bobol gyffredin eu lladd yn ystyod y digwyddiad, a’r rheiny’n cynnwys merched phlant yn ogystal â thri o ymladdwyr IS.

Mae adroddiadau eraill yn dweud mai wyth o bobol gafodd eu lladd, a bod teulu o bedwar o Irac yn eu plith.