Mae Gogledd Corea wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o greu “sefyllfa beryglus” lle gall “rhyfel thermoniwclear gychwyn ar unrhyw adeg”.

Wrth siarad yn ystod cynhadledd i’r wasg, dywedodd Dirprwy Llysgennad Gogledd Corea yn y Cenhedloedd Unedig bod y wlad yn “barod i ymateb” i unrhyw fygythiad gan America.

Daw ymateb y wlad yn sgil driliau milwrol diweddar ar ei ffin ddeheuol a phenderfyniad yr Unol Daleithiau i ddanfon llongau rhyfel i ddyfroedd Corea.

Mae Gogledd Corea wedi herio sawl gwaharddiad gan y Cenhedloedd Unedig trwy gynnal cyfres o brofion taflegrau a niwclear.

Ar ddydd Llun rhybuddiodd Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence, bod “amynedd strategol” tuag at y profion wedi dod i ben.