O wefan y mudiad ymgyrchu Sanmidoun
Mae 1,500 o garcharorion Palestinaidd wedi dechrau ar ympryd benagored i brotestio am well amodau yng ngharchardai Israel.

Ymhlith eu galwadau mae’r hawl i weld mwy ar eu teuluoedd, mwy o ofal meddygol a diwedd ar arfer Israel o garcharu pobol heb achosion llys.

Un o’r ymprydwyr yw Marwan Barghouti, sy’n cael ei ystyried yn olynydd posib i Mahmoud Abbas, Arlywydd y Palestiniaid yn y Lan Orllewinol.

Fe anfonodd neges o’r carchar i bapur y New York Times i ddweud bod y carchardai yn “grud ar gyfer symudiad parhaol i ennill hunanlywodraeth i’r Palestiniaid”.

Protestio

Fe fu miloedd o Balestiniaid yn protestio ar y stryd heddiw i nodi’r hyn sy’n cael ei alw’n Ddydd y Carcharorion Palestinaidd.

Fe ddywedodd y mudiad cefnogi, Samidoun fod 6,500 o Balestiniaid yng ngharchardai Israel, gan gynnwys 300 o blant a 600 sydd heb wynebu achos llys.

Mae tensiynau’n codi yn  yr ardal wrth nesáu at 50 mlwyddiant y rhyfel pan gipiodd Israel y Lan Orllewiniol, Gaza a Sinai oddi ar y Palestiniaid.

Tra bod y mudiad milwrol Hamas yn dal i alw’n swyddogol am ddileu gwladwriaeth Israel, mae mudiad Mahmoud Abbas, Fatah, yn galw am wladwriaeth yn debyg i’r ffiniau cyn 1967.