Mae adroddiadau fod lluoedd Syria yn ennill tir oddi ar wrthryfelwyr yng ngogledd y wlad.

Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Syria, mae lluoedd yr Arlywydd Assad ar gyrion tref o’r enw Taybat al-Imam yn ardal Hama.

Mae’n ymddangos bod cyrchoedd bomio trwm wedi bod yn yr ardal er mwyn clirio’r ffordd ar gyfer milwyr ar y ddaear.

Roedd byddin y Llywodraeth eisoes wedi cipio tre’ o’r enw Soran wrth daro’n ôl wedi i’r gwrthryfelwyr oresgyn nifer o drefi a phentrefi yn yr ardal.

Ymhellach i’r gogledd, mae ymdrechion achub bywyd yn parhau ar ôl i fom ladd mwy na 120 o bobol oedd yn ffoi rhag ymosodiadau gwrthryfelwyr ar ddwy ddinas yn nhalaith Idlib.

Syria – lluoedd Assad yn ennill tir

Sôn am gyrchoedd bomio dwys cyn i’r milwyr symud ymlaen