Yr Arlywydd Erdogan (Randam CCA 2.0)
Fe ddylai canlyniad refferendwm Twrci gael ei ddileu yn ôl arweinydd y brif wrthblaid yn y wlad.

Does dim posib gwybod faint o bleidleisiau ffug oedd wedi eu bwrw, meddai Bulent Tezcan o Blaid Weriniaethol y Bobol, ar ôl pleidlais agos iawn o blaid rhoi rhagor o rym i’r Arlywydd Erdogan.

Mae’r protestiadau wedi dechrau yn y wlad ar ôl i’r bwrdd etholiadau benderfynu derbyn pleidleisiau oedd heb eu stampio’n swyddogol.

Ac mae arweinwyr rhyngwladol wedi ymateb yn ofalus i’r canlyniad hefyd, gyda Chadeirydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn “nodi” y canlyniad ac yn galw ar yr Arlywydd i chwilio am gonsensws.

Llawer rhagor o rym

Fe fydd y bleidlais – a roddodd fwyafrif o 51.4% yn erbyn 48.6% – i’r Arlywydd Erdogan a’i gefnogwyr yn newid cyfansoddiad y wlad yn sylfaenol.

Fe allai olygu bod yr Arlywydd yn aros mewn grym hyd at 2029, gyda grym i ddewis gweinidogion ac uchel swyddogion y Llywodraeth, yn ogystal â hanner y barnwyr.

Fe fyddai’n cael gwared ar swydd Prif Weinidog ac yn rhoi hawl i Recep Tayyip Erdogan alw cyfnod o argyfwng heb drafodaeth.

Mae’r fuddugoliaeth – er ei bod yn llawer agosach na’r disgwyl – yn benllanw ar ei ymgyrch i gipio mwy o rym, yn enwedig ers yr ymgais aflwyddiannus i’w ddisodli trwy rym arfog y llynedd.