Mike Pence a rhybudd i Ogledd Corea (Gage Skidmore CCA 2.0)
Mae is-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio Gogledd Corea bod y cyfnod i fod yn amyneddgar tuag ati wedi dod i ben.

Ac fe ddywedodd Mike Pence fod “pob opsiwn” ar y bwrdd wrth ystyried sut i ymateb i brofion arfau niwclear y wlad yn Asia.

Roedd yr is-Arlywydd wedi ymweld yn annisgwyl â’r tir neb sydd rhwng Gogledd a De Corea er mwyn tanlinellu ei neges fygythiol ychydig oriau ar ôl i’r Gogledd gynnal prawf aflwyddiannus ar daflegryn.

‘Rhoi’r gorau’

“R’yn ni eisiau gweld Gogledd Corea yn rhoi’r gorau i’w llwybr anghyfrifol o ddatblygu arfau niwclear ac mae ei defnydd a’i phrofion cyson ar daflegrau balistig yn annerbyniol,” meddai Mike Pence.

Fe ddywedodd fod y cyfnod o “amynedd strategol” tuat at y profion tros y chwarter canrif diwetha’ wedi gorffen.

“Mae’r Arlywydd Trump wedi gwneud yn glir bod amynedd yr Unol Daleithiau a’n cynghreiriaid yn y rhanbarth yma wedi dod i ben a’n bod eisiau gweld newid.”

Bomiau anferth

Fe gyfeiriodd Mike Pence at y bomiau anferth y mae lluoedd yr Unol Daleithiau wedi eu defnyddio’n ddiweddar yn Irac ac Afghanistan gan rybuddio Gogledd Corea i beidio â herio ei grym milwrol.

Ar y pryd, roedd rhai sylwebwyr yn amau mai cyfleu neges i Ogledd Corea oedd rhan o’r rheswm tros y bomio hwnnw.

Mae’r Unol Daleithiau wedi gofyn i China ddefnyddio’i dylanwad gyda Gogledd Corea ac mae China yn ei thro wedi rhybuddio am y peryg o ryfel yn y rhanbarth.