Y Pab Ffransis
Mae degau o filoedd o bobol wedi ymgynnull yn Sgwâr San Pedr ger y Fatican i glywed neges Pasg y Pab.

Mae mwy o swyddogion arfog nag arfer yn gwarchod y Fatican, gan gynnwys heddlu arfog ar do’r adeilad.

Mae’r Pab Ffransis yn traddodi ei araith ‘Urbi et Orbi’ “i’r ddinas ac i’r byd” o falconi’r Basilica.