Recep Tayyip Erdogan (Llun: CCA2.0)
Mae trigolion Twrci’n pleidleisio ar ddyfodol y wlad heddiw, gan gynnwys faint o rym fydd gan yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.
Pe bai’r bobol yn pleidleisio ‘Ie’, fe fydd 18 o newidiadau cyfansoddiadol yn cael eu trosglwyddo o’r senedd i’r arlywydd.
Fel rhan o’r newidiadau hynny, fe allai swyddfa’r Prif Weinidog gael ei diddymu.
Yn ôl Recep Tayyip Erdogan, fe fydd y newidiadau cyfansoddiadol yn sicrhau na fydd gan y wlad lywodraeth wan ac y bydd mwy o sefydlogrwydd yn y wlad.
Unbennaeth?
Ond mae gwrthwynebwyr yn gofidio y gallai’r newidiadau arwain at unbennaeth wrth i’r Arlywydd gael ei gyhuddo o dawelu hawliau a rhyddid y bobol.
Mae pryderon y gallai arwain y wlad tan 2029 heb fawr o graffu.