Kim Jong Un
Mae prawf niwclear diweddaraf Gogledd Corea wedi methu ar ôl i daflegryn ffrwydro cyn gadael y ddaear.
Dydy hi ddim yn glir eto pa fath o daflegryn oedd e.
Daw’r newyddion ddiwrnod yn unig ar ôl dathliadau i nodi 105 o flynyddoedd ers geni sylfaenydd y wlad, Kim Il Sung, tad-cu’r arweinydd presennol Kim Jong-un.
Ymateb yr Unol Daleithiau
Mae disgwyl i Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence lanio yn Ne Corea heddiw i drafod y sefyllfa.
Dydy’r Arlywydd Donald Trump ddim wedi gwneud sylw, ond mae e wedi bod yn ceisio darbwyllo China i roi pwysau ar Ogledd Corea.
Arfau
Bwriad Gogledd Corea yw sicrhau bod ganddyn nhw bob math o daflegryn – o bellter byr i bellter hir – a hynny’n ymateb i agweddau Washington a Seoul tuag atyn nhw.
Mae lle i gredu bod gan Ogledd Corea fomiau atomig ar gael iddyn nhw hefyd.
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod pam fod y prawf diweddaraf wedi methu.