Kim Jong-un (Llun: PA)
Mae Gogledd Corea wedi rhybuddio’r Unol Daleithiau eu bod nhw’n “barod” i lansio ymosodiad niwclear.
Daw’r sylwadau wrth i’r wlad ddathlu 105ed pen-blwydd sylfaenydd Gogledd Corea, Kim Il-sung.
Wrth i ddathliadau gael eu cynnal yn Pyongyang, mae pryderon y gallai’r arweinydd presennol Kim Jong-un awdurdodi prawf niwclear newydd.
‘Rhyfel go iawn’
Dywedodd un o brif swyddogion llywodraeth y wlad, Choe Ryong-hae fod Gogledd Corea yn barod i ymateb i “ryfel go iawn gyda rhyfel go iawn”.
“Ry’n ni’n barod i daro’n ôl gydag ymosodiadau niwclear yn ein dull ni ein hunain yn erbyn unrhyw ymosodiad niwclear.”
Roedd y dathliadau yn Pyongyang yn gyfle i Kim Jong-un arddangos arfau’r wlad, sy’n cynnwys taflegrau llongau tanfor sydd â’r gallu i deithio mwy na 600 milltir.
Mae pwysau ar y wlad o du’r Unol Daleithiau i roi’r gorau i raglenni profi taflegrau niwclear.
Ond mae pump o brofion eisoes wedi cael eu cynnal.