Mae 36 o ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) wedi cael eu lladd wrth i luoedd America ollwng bom anferthol mewn ardal o ogofâu a thwneli yn nwyrain Afghanistan.

Yn ôl arbenigwyr, byddai effaith y bom MOAB (‘massive ordnance air blast’ neu ‘mother of all bombs’| wedi bod yn debyg i ddaeargryn am filltiroedd o’i gwmpas.

Cafodd y MOAB, sy’n cynnwys 11 tunnell o ffrwydron, ei ollwng er mwyn difa ogofâu sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan y gwrthryfelwyr.

Dywedodd y Cadfridog John Nicholson, pennaeth lluoedd America yn Afghanistan, fod yr ymosodiad wedi bod yn llwyddiant.

“Roedd yr arf yn effeithiol iawn ac fe wnaeth gyflawni ei ddiben,” meddai.

Mae cyn-arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, wedi beirniadu’r ffrwydrad ac yn cyhuddo America o gamddefnyddio’i wlad i brofi arfau newydd a pheryglus.

Mae eraill yn amau fod Donald Trump wedi awdurdodi’r ymosodiad er mwyn rhoi rhybudd i wledydd  eraill fel Syria neu Ogledd Korea o’r hyn y gall America ei wneud.

Roedd y Cadfridog Nicholson, fodd bynnag, yn gwadu hyn.

“Nid yw’n ymwneud ag unrhyw ddigwyddiadau heblaw ein nod o ddifa Daesh yn 2017,” meddai. “Hwn oedd yr arf addas ar gyfer y targed penodol hwn ar hyn o bryd.”