Mae Gogledd Korea wedi rhybuddio Donald Trump eu bod yn barod am ryfel ac yn barod i ddefnyddio’u harfau niwclear.
Mae dirprwy weinidog tramor y wlad, Han Son Ryol, yn beio arlywydd America am greu tensiynau ym mhenrhyn Korea.
“Fe fyddwn ni’n mynd i ryfel os ydyn nhw’n dewis hynny,” meddai.
“Os yw America’n gwneud symudiadau milwrol anghyfrifol yna bydd Gogledd Korea yn achub y blaen arni gydag ymosodiad.
“Mae gennym eisoes arfau niwclear pwerus yn ein dwylo.”
Mae’r tensiynau’n dwysau wrth i America gynnal ymarferion milwrol ar y cyd â De Korea.
Ar y llaw arall, does fawr o arwyddion o bryder yng Ngogledd Korea, wrth i’r wlad gynnal ei phrif ŵyl flynyddol.
Heddiw yw diwrnod penblwydd sylfaenydd y wlad, y diweddar Kim Il Sung, a fyddai wedi bod yn 105 oed. Ef oedd taid yr arweinydd presennol Kim Jong Un.
Mae disgwyl y bydd Gogledd Korea yn arddangos ei thaflegrau diweddaraf mewn gorymdaith i nodi’r achlysur.