Begotxu Olaizola
Yn ôl athrawes o Wlad y Basg, mae’r ffaith fod y grŵp arfog ETA wedi rhoi’r gorau i’w harfau yn gam ymlaen yn y frwydr dros annibyniaeth.

Wrth siarad â golwg360, mae Begotxu Olaizola yn rhybuddio mai’r peth gorau i’r grŵp ei wneud yw “diflannu” gan ei fod yn “floc i annibyniaeth.”

“Mae’n newyddion grêt ond mae lot o bethau i’w sortio allan gyda Gwladwriaeth Sbaen,” meddai’r wraig sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.

“Mae lot o bethau i’w clirio. Mae’n rhaid i Sbaen gydnabod ei gorffennol ffasgaidd, mae’n rhaid i Sbaen gydnabod y dioddefwyr ar y ddwy ochr. Dyna’r pethau pwysig.”

Roedd Begotxu Olaizola, sy’n dod o Donostia [San Sebastián yn Sbaeneg], yn siarad wythnos ar ôl i’r grŵp gyhoeddi llythyr yn dweud y bydd yn rhoi’r gorau i’w holl arfau a ffrwydron.

Roedd y grŵp yn ymladd dros annibyniaeth i Wlad y Basg sy’n rhan o dde Ffrainc a Gogledd Sbaen, gan ladd 829 o bobol mewn cyfnod o 43 blynedd.

“Rhaid iddyn nhw ddiflannu”

“Dyma’r cam cyntaf. Mae’n rhaid iddyn nhw ddiddymu. Bydd yn gamgymeriad mawr os maen nhw’n aros fel unrhyw beth – yn blaid neu’n gymdeithas,” ychwanegodd Begotxu Olaizola.

“Mae’n rhaid iddyn nhw jyst diflannu – ta ta. Dyna un o’r pethau cyntaf.

“Dw i’n gobeithio bod y trais wedi gorffen am o leiaf o’r un ochr. Mae’r trais ar ochr Llywodraeth Sbaen yn aros.”

Mae’n dweud bod ETA wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi ar ôl sylwi nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas rhagor, gyda phobol Gwlad y Basg yn “gwneud hynny’n glir.

“Dw i’n meddwl bod nhw wedi, o’r diwedd, efallai’n rhy hwyr, ond bod nhw wedi dod i weld nad oes lle iddyn nhw yn y ganrif hon,” meddai wedyn.

“Dydyn nhw ddim yn helpu i gael annibyniaeth, maen nhw’n anhawster i gael annibyniaeth. Maen nhw’n floc i annibyniaeth.”

Annemocrataidd

Mae bellach grŵp pwyso yng Ngwlad y Basg – Gure Esku Dago [Yn Ein Dwylo Ni], sy’n brwydro dros gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Mae’r ffaith fod Llywodraeth Sbaen yn gwrthod cynnal pleidlais o’r fath yn dangos nad yw hi’n wlad ddemocrataidd, yn ôl Begotxu Olaizola.

“Buaswn i’n licio refferendwm i gael gwybod [faint o gefnogaeth sydd i annibyniaeth], dyna’r ffordd orau o wybod. Maen nhw’n ofni cael rhywbeth fel ‘na. Democratiaeth yw cael refferendwm.”

Mae cefnogwyr annibyniaeth yng Ngwlad y Basg, fel ym mhen arall Sbaen yng Nghatalwnia, bellach yn gweithio tuag at gynnal refferendwm – p’un a ydyn nhw’n cael cefnogaeth gan Sbaen ai beidio.

Mae’n debyg y gall hyn gael ei chynnal erbyn 2020.