Mae lle i gredu bod merch 11 oed ymhlith y pedwar o bobol a gafodd eu lladd pan blymiodd lori i ganol torf yn Stockholm ddydd Gwener diwethaf.

Yn ôl adroddiadau, mae rhieni Ebba Akerlund wedi dweud wrth y cyfryngau lleol bod eu merch wedi cael ei lladd yn y digwyddiad.

Dynes 31 oed o Wlad Belg, dynes 69 oed o Sweden a dyn 41 o Loegr oedd y tri arall. Cafodd 15 o bobol eraill eu hanafu.

Mae Rakhmat Akilov, dyn 39 oed o Uzbekistan, wedi pledio’n euog i droseddau brawychol.

Penderfynodd y llys yn Sweden ddydd Mawrth fod modd ei gadw yn y ddalfa am hyd at fis, ond mae ei gyfreithiwr wedi dweud y gallai fod dan glo tan bod yr achos yn cael ei ddatrys.

Dydy’r heddlu ddim wedi dweud pam fod yr ymosodiad yng nghanol stryd brysur wedi digwydd, a does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.

Mae lle i gredu bod Rakhmat Akilov yn “cydymdeimlo” â sefydliadau brawychol ond yn ôl yr heddlu, doedd ganddyn nhw ddim achos i gredu y byddai’n trefnu ymosodiad.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos hon ei fod e’n geisiwr lloches aflwyddiannus.