Mosgow
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson wedi dweud ei fod yn gobeithio datrys “gwahaniaethau” ag Ysgrifennydd Tramor Rwsia, Sergey Lavrov.

Mae’r ddau yn cyfarfod ym Mosgow heddiw i geisio datrys y ffrae tros Syria.

Yn ôl Sergey Lavrov, mae gan Rwsia lu o gwestiynau am agwedd “amheus” a “gwrthgyferbyniol” yr Unol Daleithiau.

Dywedodd ei bod yn bwysig i Rwsia ddeall “gwir fwriad” yr Arlywydd Donald Trump, gan ychwanegu bod y ddwy wlad wedi cytuno i barhau i gyfathrebu.

Mae Sergey Lavrov hefyd wedi mynegi pryder fod nifer o brif swyddi llywodraeth yr Unol Daleithiau’n dal heb eu llenwi, a bod hynny’n ei gwneud hi’n anodd deall beth yw blaenoriaethau’r wlad.

Mae Donald Trump eisoes wedi dweud bod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn cefnogi “dyn dieflig” ac “anifail” wrth gefnogi Bashar Assad.

Ond tarodd Vladimir Putin yn ôl gan ddweud bod perthynas Rwsia â’r Unol Daleithiau wedi chwalu ers i Donald Trump ddod i rym.