Mae cyn-Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn yr etholiad arlywyddol ym mis Mai – er bod Arweinydd Goruchaf y wlad wedi argymell na ddylai ymgeisio.

Bu Mahmoud Ahmadinejad yn Arlywydd Iran rhwng 2005 a 2013, ond bu protestiadau pan gafodd ei ail-ethol yn 2009.

Bu ymgyrch ysgubol gyda miloedd yn cael eu cadw yn y ddalfa, nifer eu lladd ac eraill eu harteithio.

Mae’n debyg mai dyma oedd y tu cefn i sylwadau Arweinydd Goruchaf y wlad, Ayatollah Khamenei, wrth argymell iddo beidio ag ailymgeisio.

Mae disgwyl hefyd y bydd yr Arlywydd presennol, Hassan Rouhani, wnaeth negydu cytundeb niwclear Tehran gyda phwerau byd yn ailymgeisio yn yr etholiadau hefyd.