Mae un dyn wedi’i ladd, a thri wedi’u hanafu mewn ffrwydriad mewn ffatri arfau yn Independence, Missouri.

Mae’r awdurdodau’n dweud fod y Lake City Army Ammunition Plant wedi chwythu i fyny yn hwyr neithiwr. Mae’r safle’n cynhyrchu arfau cymharol fychan, ac mae’n gweithredu fel canolfan brawf ar gyfer NATO hefyd.

Mae yno fwy na 400 o adeiladau dros 3,900 o aceri, ac mae 700,000 troedfedd sgwar o ofod storio.

Gan fod y safle mor fawr, ac mor allweddol, mae ganddo ei frigad dân ei hun.