Mae dyn sy’n cael ei amau o yrru cerbyd at dorf yn Stockholm wedi cyfaddef i gyhuddiad o frawychiaeth, yn ôl ei gyfreithiwr yn Sweden.

Cafodd pedwar o bobl eu lladd a 15  eu hanafu yn ystod yr ymosodiad ddydd Gwener diwethaf.

Dywedodd cyfreithiwr Rakhmat Akilov ei fod yn “cydnabod y cyhuddiad o frawychiaeth a’i fod yn cytuno i gael ei arestio.”

Bu Johan Eriksson yn siarad gyda gohebwyr  y tu allan i Lys yn Stockholm  cyn i’r llys benderfynu ar orchymyn ffurfiol gan erlynwyr i gadw Rakhmat Akilov yn y ddalfa.

Honnir bod y dyn 39 oed o Uzbekistan wedi gyrru tryc gwrw, a oedd wedi’i ddwyn, at dorf y tu allan i siop yng nghanol prifddinas Sweden.

Cafodd ei ddal gan yr heddlu oriau wedi’r ymosodiad a’i arestio yn gynnar ddydd Sadwrn.