Mae athrawes a disgybl ysgol gynradd wedi’u saethu’n farw mewn ystafell ddosbarth yng Nghaliffornia gan gyn-ŵr i’r athrawes.

Ar ôl y digwyddiad fe wnaeth y dyn, Cedric Anderson 53 oed, saethu ei hun.

Roedd wedi bod yn briod â’r athrawes, Karen Elaine Smith, ers mis Ionawr ond roedden nhw wedi gwahanu am o leiaf mis cyn iddo gerdded i mewn i’w hystafell ddosbarth yn San Bernardino ddydd Llun.

Bu farw disgybl 8 oed, Jonathan Martinez, yn fuan ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty ac mae bachgen arall, 9 oed, yn parhau mewn cyflwr sefydlog.

Roedd gan Cedric Anderson hanes troseddol yn cynnwys cyhuddiadau o fod ag arfau yn ei feddiant, trais domestig a chyhuddiadau posib yn ymwneud â chyffuriau, yn ôl adroddiadau Heddlu San Bernardino.