Stockholm wedi'r ymosodiad ddydd Gwener Llun: PA
Mae munud o dawelwch wedi cael ei gynnal yn Sweden er cof am y rhai gafodd eu lladd yn ystod ymosodiad lori yn Stockholm ddydd Gwener ddiwethaf.

Cafodd pedwar o bobl eu lladd a 15 eu hanafu ar ôl i lori yrru at nifer o siopwyr mewn ardal brysur o’r brifddinas.

Roedd y Prydeiniwr, Chris Bevington, 41, ymhlith y rhai fu farw.

Wrth annerch torf tu allan i neuadd ddinesig Stockholm, dywedodd Prif Weinidog Sweden, Stefan Lofven, na fyddai’r wlad yn “ildio i frawychiaeth.”

Mae’r  heddlu wedi arestio dyn 39 oed o Uzbekistan, ar amheuaeth o yrru’r lori.

Nid oes unrhyw fanylion wedi eu cyhoeddi hyd yma ynglŷn ag ail berson sydd wedi ei arestio yn gysylltiedig â’r ymosodiad.