Mae o leiaf 37 o bobol wedi cael eu lladd a dwsinau’n rhagor wedi’u hanafu’n dilyn cyfres o ymosodiadau ar eglwysi yn yr Aifft.

Cafodd 11 o bobol eu lladd mewn ffrwydrad yn ninas Alexandria, tra bod 35 o bobol wedi’u hanafu.

Roedd ffrwydrad arall yn nhref Tanta eisoes wedi lladd 26 o bobol, gan anafu 70 yn rhagor.

Digwyddodd yr ymosodiadau wrth i eglwysi nodi Sul y Blodau.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau tebyg yn y gorffennol.