Baner Norwy (Llun: PA)
Mae’r heddlu wedi atal ffrwydrad a allai fod wedi bod yn ddinistriol ger gorsaf danddaearol ym mhrifddinas Norwy, Oslo.

Cafodd pobol eu symud o fariau a bwytai cyfagos wrth i ddiffoddwyr fynd ati i waredu’r ddyfais yn ddiogel.

Dywedodd yr awdurdodau’n ddiweddarach fod unigolyn wedi’i arestio, ac nad oedd unrhyw un wedi’i anafu.

Gwyliadwraeth

Roedd Norwy ar ei gwyliadwraeth eisoes yn dilyn yr ymosodiad brawychol yn Stockhol, yn Sweden, pan gafod pedwar o bobol eu lladd.

Cafodd y bom yn Oslo ei ddarganfod lai na milltir i ffwrdd o adeiladau’r llywodraeth a gafodd eu dinistrio mewn ymosodiad gan Anders Breivik yn 2011.

Cafodd 77 o bobol eu lladd yn y digwyddiad hwnnw.