Carol dinas Stockholm (llun: PA)
Mae’r heddlu yn Sweden wedi arestio dyn ar amheuaeth o yrru’r lori a laddodd bedwar o bobl mewn ymosodiad yn Stockholm ddoe.

Roedd y lori wedi cael eu gyrru i mewn yn fwriadol i siop fawr ar Drottninggattan, prif stryd siopa’r ddinas.

Yn ogystal â’r rhai a gafodd eu lladd, cafodd 15 eu hanafu, gan gynnwys plant.

Dywed yr heddlu fod y dyn yn cael ei holi ar amheuaeth o “droseddau terfysgol trwy lofruddiaeth”.

Yn ôl adroddiadau answyddogol yn Sweden, mae’r dyn yn 39 oed ac yn hanu o Uzbekistan.