Stockholm (Llun: PA)
Mae lori wedi taro i mewn i siop fawr ym mhrifddinas Sweden, Stockholm, gan ladd o leiaf pump person.

Yn ôl Prif Weinidog Sweden, Stefan Lofyen, mae’n debygol mai “ymosodiad brawychol” sydd y tu ôl i’r gwrthdrawiad.

Mae “nifer fawr” o bobol wedi cael eu hanafu ac mae un person eisoes wedi cael ei arestio.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 3 y prynhawn ar Drottninggatan, sef un o strydoedd mwyaf prysur ar gyfer cerddwyr y ddinas.