Mae pryder bod hyd at 17 o bobol wedi marw ar ôl i fws fynd ar dân yn dilyn gwrthdrawiad â thryc yn Simbabwe.

Mae mwy na 40 o bobol eraill weddi dioddef anafiadau difrifol, yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu.

Dywedodd fod pobol wedi bod yn sownd yn y bws ac wedi marw cyn i unrhyw gymorth gyrraedd.

Mae damweiniau ffordd yn gyffredin yn Simbabwe, gyda’r bai am y rhan fwyaf yn cael ei roi ar bobol yn gor-yrru ar ffyrdd o ansawdd gwael.