Mae tref yn Seland Newydd wedi cael ei gwagio wedi i afon fyrstio trwy lifglawdd gan ddifrodi tai a busnesau.

Fe fu’n rhaid achub 2,000 o bobol tref Edgecumbe ar ynys ogleddol Seland Newydd rhag dinistr y llifogydd.

Mae cawodydd trwm wedi taro’r wlad yn ddiweddar wrth i Seland Newydd wynebu’r hyn sy’n weddill o Seiclon Debbie, storm sydd wedi achosi llifogydd ar arfordir dwyreiniol Awstralia.

Yn ôl gorsaf fonitro tywydd lleol, mae gwerth deufis o law wedi cawodi’r dref dros y diwrnodau diwethaf.

Ym mis Tachwedd gwnaeth ddaeargryn yn yr ardal achosi dinistr gan gyfyngu mynediad i’r dref.