Mae China wedi beirniadu India am ganiatau i’r arweinydd ysbrydol, y Dalai Lama, ymweld ag ardal ar y ffin rhwng y ddwy wlad, gan ddweud mai nid mater i India’n unig oedd o.

Mae llefarydd ar ran gweiniddiaeth dramor China wedi dweud fod yr ymweliad wedi “gwneud niwed mawr i’r berthynas” rhwng y gwledydd, yn ogystal â tholcio “buddiannau China”.

Maen nhw’n gwrthod yr honiad mai ymweliad crefyddol yn unig oedd un y Dalai Lama ag ardal Arunachal Pradesh yng ngogledd-ddwyrain India.

Mae China yn mynnu fod India wedi tramgwyddo cytundeb rhyngddyn nhw ar faterion yn ymwneud â Tibet hefyd – rhywbeth a allai “gorddi trafferthion” unwaith yn rhagor.