Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea
Mae Gogledd Corea wedi saethu taflegryn mewn i ddyfroedd oddi ar arfordir dwyreiniol y wlad ym Môr Japan.

Cafodd yr arf ei thanio fel ymateb i ddriliau milwrol gan yr Unol Daleithiau a De Corea, sy’n cael eu gweld fel ymarferiad am ymosodiad.

Yn ôl asesiadau gan yr Unol Daleithiau, gwnaeth y taflegryn KN-15 blymio ar ôl hedfan am tua 37 milltir o’i fan lansio yn ninas Sinpo.

Mae lansiad y taflegryn yn cyd-daro â chyhoeddiad delweddau o loerennau sydd yn awgrymu bod Gogledd Corea yn paratoi ar gyfer arbrawf niwclear.

Mae arbenigwyr yn dweud bod hi’n bosib bydd Gogledd Corea’n medru datblygu taflegryn niwclear gall gyrraedd yr Unol Daleithiau mewn ychydig o flynyddoedd.