Mae daeargryn yn mesur 6.1 wedi taro gogledd Iran.

Fe ddaeth cyhoeddiad ar deledu’r wlad fod y daeargryn wedi ysgwyd dinas Mashhad. Does yna ddim adroddiadau ar hyn o bryd am ddifrod nac anafiadau posib.

Mae Iran yn dueddol o gael ei tharo gan ddaeargrynfeydd oherwydd nifer y ffawtiau sy’n rhedeg trwy’r Dwyrain Canol.

Yn 2003, fe gafodd 26,000 o bobol eu lladd yno pan gafodd dinas Bam ei llorio gan ddaeargryn yn mesur 6.6.