Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia (Llun: PA)
Mae gwasanaeth diogelwch Kyrgyzstan yn dweud eu bod wedi adnabod yr ymosodwr fu’n gyfrifol am y ffrwydrad ar drên tanddaearol yn St Petersburg ddoe.

Dywed y gwasanaeth bod y bomiwr yn dod o Kyrgyzstan, cyn-weriniaeth Sofietaidd, ac yn ddinesydd Rwsiaidd.

Cafodd 14 o bobl eu lladd a  49 eu hanafu pan ffrwydrodd bom ar drên tanddaearol yn y ddinas ddydd Llun.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad a ddigwyddodd wrth i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ymweld â St Petersburg.

Dywed gwasanaeth diogelwch  Kyrgyzstan eu bod yn cyd-weithio gyda’r awdurdodau yn Rwsia i helpu gyda’r ymchwiliad.

Nid yw’n glir a oedd yr ymosodwr yn hunan-fomiwr neu wedi ffoi o’r safle.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi ffonio Vladimir Putin i estyn ei gydymdeimlad wedi’r ymosodiad ac i gynnig cymorth i Rwsia.